top of page
NOW AND EVER MORE 
14 & 15 Hydref 2022
Nglofa’r Great Western (Siafft Hetty)

Sioe syrcas awyr agored yn cynnwys goleuadau, tân a cherddoriaeth i deuluoedd a’n cymuned leol.

 

Ar y cyd â cheidwaid treftadaeth y safle fe fu i ni lwyfannu profiad bythgofiadwy, sef golau, tân, cerddoriaeth a syrcas awyr agored, yn tywys y gynulleidfa ar daith awr o gwmpas y tiroedd ac ar ben y daith tro am y tŷ injan sydd wedi’i gadw â gofal cu.

Perfformiad hynod o weledol oedd hwn gyda lleisiau lleol wedi’u recordio, a welodd ddawn syrcas a theatr Cymru’n perfformio i gyfeiliant cerddoriaeth fyw gan Simon McCorry (Soddgrythor) gyda mewnosodiadau tân a pherfformiadau a weddnewidiodd safle’r lofa’n llwyr.

Yn Now and Ever More gwelwyd perfformwyr lleol yn defnyddio straeon a threftadaeth gorffennol y lofa wedi’u cyfleu drwy eu medrau syrcas a pherfformio. Yn wreiddiol syniad ar gyfer cymuned Pontypridd oedd Now and Ever More, cyn y llifogydd yn 2020, a chyn y pandemig. Nid tan 2022 y gwireddwyd y cyfle i ddod â mewnosodiadau tân a pherfformiadau fyddai’n gweddnewid safle’r lofa.

Ysbrydolwyd y teitl gan gytgan yr emyn enwog Bread of Heaven -Dan yr enw “Glofa Gyfeillon”, yn 1851, yr agorwyd y pwll gyntaf, ac fe’i caewyd ym 1983. Roedd y pwll yn un o blith llawer yn yr ardal, a gwelodd funudau duon lawer yn ei orffennol, gan gynnwys trychineb ym 1893 pan fu tân yn y lofa yn angau 63 o wŷr a bechgyn. Caeodd y lofa ym 1983 ond, serch cau’r pwll a’i siafftiau, mae Tŷ’r Injan, fel pin mewn papur, ar y safle o hyd.

Meddai’r Cynghorydd Lleol ac un o Ymddiriedolwyr y safle, Tina Leyshon, "Mae’r Ymddiriedolaeth Gadwraeth yn falch iawn o weld Citrus Arts yn cydweithio â ni i lwyfannu’r digwyddiad yma i’n cymuned leol. Gobeithio y byddwn yn gallu parhau â’r gwaith yma, yn meithrin partneriaethau â chymunedau a chyrff lleol i gadw tŷ weindio Hetty i’r oesoedd a ddêl." “feed me now and evermore” - a ganir ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda a glywyd gyntaf yn y capel ger y safle.

 

Cynhaliwyd perfformiad Now and Ever More yn 2022 yng Nglofa’r Great Western, sydd hefyd yn mynd dan yr enw ‘Siafft Hetty’ ar Heol y Rhondda, rhwng Trehafod a Phontypridd.  Mae ei Thŷ Injan gwreiddiol wedi’i gadw’n wych a saif yn symbol o’r meddwl mawr sydd gan ddyrnaid o bobol leol arbennig o’u treftadaeth a hanes yr ardal.

Cafodd y lofa ei hagor yn wreiddiol fel “Glofa Gyfeillion” yn 1851 a cafodd ei chau yn 1983. Roedd y lofa yn un o lawer yn yr ardal, a gwelodd llawer o gyfnodau tywyll yn y gorffennol, yn cynnwys trychineb yn 1893 pan arweiniodd tân yn y lofa ar farwolaeth 63 o ddynion a bechgyn. Er i’r lofa gau yn 1983 a’r pwll a’i siafftiau fod wedi cau, mae’r Peiriant yn aros yn y safle.

Dywedodd Tina Leyshon, Cynghorydd lleol ac Ymddiriedolydd y safle, “Mae’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth yn falch iawn fod Citrus Arts yn gweithio gyda ni i gyflwyno’r digwyddiad hwn ar gyfer ein cymuned leol. Gobeithiwn gario ymlaen gyda’r gwaith hwn, gan greu partneriaethau gyda chymunedau a sefydliadau lleol i gadw tŷ weindio Hetty ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.
 

Ffotograffiaeth gan:

Two Cats in the Yard & Lens Images
 

Crëwyd gyda

chefnogaeth gan:

Logos Hetty.png
bottom of page