top of page

PWY YDYM N
Profiadau Anghyffredin i Bobl Gyffredin 

Exceptional Experiences for Everyday People

Ers dros ddeng mlynedd rydym yn gwneud perfformiadau hynod o gorfforol a gweledol sy’n cyfuno syrcas, theatr a dawns, a berfformir gyda’n cymunedau a hefyd mewn digwyddiadau, oedfannau a gwyliau drwy hyd a lled gwledydd Prydain. Ym Mhontypridd, yng Nghymoedd Cymru, ar gymer yr afonydd Rhondda a Thaf, y mae ein cartref, gwaith deng munud o Gaerdydd, ac mae llawer o’n gweithgaredd ar fynd yn ein man gymuned, Neuadd Trehopcyn.

​

Mewn theatr gorfforol a syrcas roedd hyfforddiant Bridie a James. Am flynyddoedd lawer roeddem yn teithio a’n harbenigedd ydi dod â phobl ynghyd drwy greadigedd.  Elusen nid er elw ydym, yn wreiddiol yn gwmni a redid gan deulu ond bellach yn ehangu ac yn cefnogi rhagor o artistiaid a chyfranogwyr lleol a rhyngwladol.

 
Credwn mewn profiadau anghyffredin i bobl gyffredin. 
 

242298436_6343535349020521_865585622975943114_n.jpg

Ein Cartref a’n Cymuned

Rydym yn cefnogi ein cymuned leol drwy greadigedd a phrofiadau cymdeithasol yn ein cartref yn Neuadd Trehopcyn ac yn ein cymunedau lleol.   Byddwn yn cydweithredu â thimau tan gamp o artistiaid a chyrff, drwy greu cynyrchiadau teithiol gwreiddiol newydd a chomisiynau.
 
Mae’n amcan gennym greu’r amgylchfydau i roi lle i bobl ddod at ei gilydd a bod yn rhan o rywbeth arbennig. Mae arnom eisiau ysbrydoli eraill i fentro, i ddysgu ac i rannu profiadau sy’n cyfnerthu cymunedau.

 

Ein Digwyddiadau

Video : CITRUS BUILDS A VILLAGE

​

Citrus Arts, working with local emerging artists, created a community of activity and performance for Beyond the Border storytelling festival in 2021.

Filmmaker Sam Irving has captured this story...

Rydym yn frwd dros ein gwaith ac am i gynifer o bobl ag y bo modd elwa ar beth wnawn ni. 

Mae syrcas gyfoes, dawns a theatr gorfforol wrth graidd ein harfer. Rydym yn chwilio’r modd y mae gwerthoedd cynhyrchu uchel ar sail naratif, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol yn cefnogi sbectacl corfforol mewn perfformiad gwreiddiol. 
 

​

Gwelwyd ein gwaith ar hyd ac ar led gwledydd Prydain mewn dinasoedd ac yng nghefn gwlad, o berfformiad bychan mewn corff awyren i gynulleidfa o ugain hyd at berfformiad ar raddfa fawr wedi’i deledu i ugain mil. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o gyrff a buom yn gymorth i gyflenwi prosiectau creadigol uchelgeisiol gyda chwmnïau fel Walk The Plank, National Centre for Circus Arts, Sinfonia Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru. Rydym wedi cyflenwi prosiectau ar y cyd â thair o Theatrau Cenedlaethol gwledydd Prydain (Southbank Llundain, Theatr Genedlaethol Cymru a National Theatre Wales) a dal rolau Arweiniad Creadigol hirdymor i London Youth Circus, gŵyl theatr stryd Sblash Fawr, Take pART a Gŵyl Green Man. 
.  

Hyfforddiant Citrus Arts

Mae cydweithredu ag artistiaid eraill a ffurfiau eraill ar gelfyddyd yn fwyd a diod i ni ac rydym yn bodoli am i nifer fawr o gwmnïau ein cefnogi ar hyd y ffordd.  Mae arnom eisiau buddsoddi yn ein cymuned, ac mae arnom eisiau cefnogi sgiliau a gyrfaoedd pobl leol.  Rydym yn cynnig cynllun hyfforddi prentisiaid gyda Citrus Arts. Gewch chi ddysgu sut beth ydi bywyd perfformio a chynhyrchu ar yr un pryd â gweithio ar ein digwyddiadau’n lleol, drwy sgiliau ymarferol o lygad y ffynnon, yn creu setiau ac yn gweithio gyda chyfranogwyr ac artistiaid. Mae llawer o bobl hyfforddodd gyda ni bellach yn gweithio ar deithiau a chynyrchiadau drwy hyd a lled gwledydd Prydain.  Am wybod rhagor? Cysylltwch â ni ar admin@citrusart.co.uk.

Hyfforddiant Ar Lein / Cynadledda

Rydym yn gweithio gyda llond gwlad o ddigwyddiadau awyr agored a dan do.  Yn aml gofynnir i ni sôn am ein profiadau o beth wnawn ni. Mae arnom eisiau rhannu ein dysgu fel y gall rhagor o bobl elwa ar ein profiadau. Wyddom ni mo bopeth, ond rydym yn fodlon rhannu ein profiadau o beth ddaeth i’n rhan ni yn ein blynyddoedd o berfformio a chreu yn yr awyr agored.  

​

Os carech chi i ni eich cynghori neu siarad mewn gweithdy neu ddigwyddiad, cofiwch gysylltu â ni ar admin@citrusart.co.uk.
 

 

bottom of page