top of page

NEUADD TREHOPCYN

Cartref Citrus Arts a Chymdeithas Les Henoed Ward y Rhondda 

Hop Hall Logo Circle Orange.png

 

Eich Neuadd chi ydi hon. Oes arnoch chi eisiau defnyddio’r fan?

Eich man gymuned chi ydi Neuadd Trehopcyn. Mae arnom ni eisiau i chi ein helpu i’w defnyddio. Mae’n fan hynod werthfawr i’n cymuned ei defnyddio. Os ydych chi’n grŵp cymuned, yn artist neu os oes arnoch eisiau llogi’r fan i greu neu i ymarfer, cysylltwch â ni ar admin@citrusarts.co.uk  a gallwn fynd â chi o gwmpas yr adeilad.

Neuadd Gymuned Trehopcyn ydi’r enw newydd ar Neuadd Les Pensiynwyr Ward y Rhondda yn Nhrehopcyn, Pontypridd.

Mae Neuadd Trehopcyn yng nghalon y gymuned. Capel Wesle hardd ydi’r neuadd a ddefnyddid yn daflod yn ystod hanner cynta’r ugeinfed ganrif. Ers y 1950au mae’n eiddo Cymdeithas Les Henoed Ward y Rhondda ac yn awr rydym yn gofalu am yr adeilad ac yn ei gynnal a’i gadw ar y cyd.
 
Rydym wedi dechrau graddol gyflwyno nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y Neuadd, gan gynnwys clybiau cymdeithasol, Citrus Pips a chyfarfodydd. Yn 2021, ynghyd â’r perchnogion a defnyddwyr eraill yr adeilad, byddwn yn bwrw golwg ar ddatblygu’r adeilad ymhellach fyth.

Rhowch wybod i ni beth ydi’ch meddwl chi.
 

Work on the Hall - Progress in Pictures 
 

bottom of page