DOSBARTHIADAU SYRCAS
Codwch eich cwt gyda’r Syrcas!
Fe ailgychwynnon ni ein Syrcas Ieuenctid anhygoel - Citrus Pips. Hyfforddiant syrcas i bobol ifanc yw Citrus Pips, sy’n arwain at gyfleoedd perfformio, siawnsiau i ddysgu medrau ymarferol bywyd syrcas, a’r siawns i weithio ochr yn ochr â thîm proffesiynol Citrus Arts yn eu sbloetiau awyr agored arobryn. Oherwydd diddordeb mwyfwy, rydyn ni wedi ychwanegu sesiynau dros ben sy’n golygu bod amserlen dyddiau Mercher wedi newid fymryn.
Rydyn ni hefyd yn rhedeg Chwarae Syrcas i’r plant lleiaf, dosbarthiadau Awyrgampau i oedolion yn ogystal â sesiynau Ymarfer Agored lle cewch chi ymarfer beth rydych wedi’i ddysgu a threulio amser yn gwella mewn awyrgylch cymdeithasol.
Dim ond yn ystod y tymor y cynhelir dosbarthiadau.
Gadw lle neu i gael gwybod rhagor ebostiwch: education@citrusarts.co.uk
dyddie Mercher
CHWARE SYRCAS MINI PIPS
3-6oed | 3:45-4:30pm
Dosbarth gweithgaredd sy’n hwyl yw Chware Syrcas sy’n canolbwyntio ar ddysgu drwy chware. Caiff plant bach rhwng tair a chwe blwydd oed chware gêms a dysgu amryw fedre syrcas sydd ar lawr, megis jyglo, weiren dynn, troelli platie, cylchyn hwla ac yn y blaen.
Mae’r dosbarth yn ddifyr, yn gorfforol ac yn gynhwysol, yn cael ei redeg gan diwtoriaid profiadol yn awyrgylch diogel a chyfeillgar ein Neuadd Trehopcyn sydd newydd ei hailwampio.
£3 yr un
dyddie a nose Mercher
SYRCAS IEUENCTID
CITRUS PIPS 7-9 oed | 4.45-5.45pm
CITRUS PIPS 10-12 oed | 6-7.30pm
I blant saith hyd at ddeuddeg oed, dilyniant naturiol i’r rheini sydd wedi mynychu dosbarthiade Chware Syrcas, neu i ddechreuwyr o’r oed addas. Does dim angen profiad cynt.
Mae’r dosbarthiade hwyliog a chyfeillgar yma’n gymysgedd o acrobateg, awyrgampe, a medre trin a thrafod megis jyglo, cylchyn hwla, troelli platie ac yn y blaen.
Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol i’r arfer a gwella’ch ffitrwydd at ei gilydd, rhoi hwb i’ch hyder a chael hwyl ar yr un pryd.
£5 yr un
nose Iau
SYRCAS IEUENCTID
GLASOED CITRUS PIPS
12-18 oed | 5-6:30pm
I bobol ifanc sydd naill ai’n symud lan o Pips 1 ac am hybu eu medre, neu i ddechreuwyr deuddeg hyd at ddeunaw oed.
Mae’r dosbarthiade hwyliog a chyfeillgar yma’n gymysgedd o acrobateg a medre awyrgampe syrcas. Bydd y tiwtoriaid yn rhoi prawf ar allu’r disgyblion ac yn addasu’r ymerferion yn ôl hynny, does dim angen profiad cynt.
Rhowch gynnig ar rywbeth gwahanol i’r arfer a gwella’ch ffitrwydd at ei gilydd, rhoi hwb i’ch hyder a chael hwyl ar yr un pryd.
£5 yr un
nose Iau
AWYRGAMPE OEDOLION
DECHREUWYR | 7-9pm
O wella cryfder rhan uchaf eich corff hyd at ddechre creu eich act gyntaf, mae’r tiwtoriaid yma i helpu’r dechreuwr o awyrgampwr – hyd yn oed y newyddaf oll – i esgyn i’r awyr.
£10 yr un
nose Llun
YMARFER AGORED
7-9pm
Amser i ddefnyddio ein man i ymarfer eich medre ochr yn ochr â phobol eraill. Mae gyda ni’r holl offer y byddech yn ei ddisgwyl mewn man bychan ymarfer syrcas neu mae croeso i chi ddod â’ch offer eich hun.
Cofiwch taw ar gyfer ymarfer a hyfforddi mae’r sesiyne yma, fydd yna ddim tiwtoriaid yn bresennol ac rydyn ni’n gofyn i chi gadw at y medre rydych yn gyfarwydd â nhw.
£3 yr un