top of page
Syrcas Ieuenctid Citrus Pips
 
Yn Nhrehopcyn
logo new ble.png

Ydych chi am ddysgu sut i jyglo, gwneud acrobateg, trapîs, cylchau hwla, dringo rhaff, yn ogystal â dawnsio stryd… i gyd ar yr un pryd…
 
Rydym yn rhedeg grŵp syrcas wythnosol i bobl ifanc yn ein cartref yn Neuadd Trehopcyn.

Bob wythnos byddwn yn stwna ac yn darganfod sgiliau syrcas ac acrobatig y gall unrhyw un ac unrhyw allu gymryd rhan ynddyn nhw. Byddwn hyd yn oed yn dwyn pawb i mewn i wneud digwyddiad awyr agored bob blwyddyn yn ein cymuned...gan gynnwys y bobl mewn oed.

Caiff y rhieni aros i gloncan dros ddishgled o de tra mae’r Pips yn brysur yn chwarae ac yn bod yn greadigol.

Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth gan y Loteri Fawr, yr Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo sy’n rhoi lle i ni weithio gyda phobl iau a meithrin hyder a chreadigedd
 

I gael diweddariadau rheolaidd a rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen FB:
  • Facebook Social Icon

Cefnogwyd gan: 

Coalfields-Regeneration-Trust-logo.png
image001.jpg

Lluniau gan M. Ninkovic-Morgan.

Darluniau gan Hannah Broadway

Fideo gan Like an Egg Productions
 

bottom of page