top of page

TŶ UNNOS
ONE NIGHT HOUSE

Bagad o bobol ifanc yn ail-greu llên gwerin Cymru, sef codi tŷ dros nos.
ty unnos-464.jpg
Yn y gwyll nos Wener 13eg Hydref cododd bagad o bobol ifanc dŷ ar Gomin Coedpenmaen (Comin Pontypridd). 

Yn ôl llên gwerin Cymru, os oes yna do ar dŷ a mwg yn dod o’r simdde erbyn toriad dydd, caiff yr adeiladwr fyw yno a ffermio’r tir o’i gwmpas hyd y gall daflu bwyell o ddrws y tŷ.


Creodd Citrus Arts a’n tîm ifanc o Gywion Celf eu Tŷ Unnos eu hunain, fu ar ei draed am bedair awr ar hugain yn garreg filltir dros dro lle’r ymgasglodd pobol, lle chwaraeodd teuluoedd a lle daeth dinasyddion cyfrannog i drafod beth yw bod â lle yn y wlad y gallan nhw’i alw’n gartre.

Nos Wener cychwynnodd y Seremoni Torri Tir Newydd am hanner awr wedi chwech lle gwyliodd y gynulleidfa godi’r tŷ, gyda pherfformiade gan Syrcas Ieuenctid Citrus Arts, Collective Flight Syrcas, Mike Church a jyglwyr, ystadfachwyr, gyda lluniade tân a cherddoriaeth fyw gan Fand Pres Cathays, Côr Cymuned Pontypridd a darn comisiwn arbennig gan y delynores Cerys Hafana.

Pnawn Sadwrn estynnon ni groeso i’r digwyddiad cymuned Torri Bara o ganol dydd ymlaen gyda gweithgaredde teulu, bwyd, gweithdai, a sgyrsie tân gwersyll. Fe wahoddon ni gyrff a grwpie lleol i rannu â ni eu pryderon amgylcheddol a chymdeithasol ynghlwm â’n cartre nawr ym Mhontypridd, a hefyd am ein dyfodol.

Ar fachlud haul nos Sadwrn, perfformiodd yr artist rhyngwladol Mark Anderson ei brofiad sain chwareus a swyngysgol o wewyr a seinie symudol, ‘Nodau o Rybudd’, a grëwyd ar y cyd â Liam Walsh. 
Seinfyd cyfareddol yw Nodau o Rybudd sy’n bywiogi drwyddo drwy berfformiad byw awyr agored sy’n bythol newid. 

Ar y cyd â Chyngor Tref Pontypridd a gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. 
Diolch i Frowen Brothers, y technegwyr goleuo T&M Technical a’r pensaer Tabitha Pope am fentora’r Cywion Celf ar y cywaith.
Nodau o Rybudd gan Mark Anderson
Dydd Sadwrn 14 Hydref | 4.30pm-8.30pm

Profiad sonig pwerus o ymgolli mewn disgwyliada newidiol.

 

Gan Mark Anderson. Wedi’i greu ar y cyd â Liam Walsh.

Byd-sain swynol sy’n dod yn fyw drwy berfformiad byw awyr agored sy’n newid yn barhaus. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ sy’n weledol drawiadol - gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol - mae Warning Notes yn rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol sy’n canu ar draws ein planed. Gwahoddiad chwareus a llesmeiriol i graffu ar ein dyfodol gyda’n gilydd

Darllenwch fwy am Mark Anderson a Nodiadau Rhybudd yma.

Comisiynir a chyflwynir ar y cyd ag OCM.

OCMlogo.png

“Gwaith hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd” , Aelod o’r Gynulleidfa

Cynaliadwyedd a’n dyfodol

Darparwyd defnyddiau ein tŷ gan Capricorn Eco Timber sydd wedi darparu defnyddiau cynaliadwy i ni. 
Mae yna ddyfodol i’n tŷ ni. Byddwn yn chwalu’r ‘tŷ’ drannoeth ar y Sul ac yn cadw’r defnyddiau i gyd gyda’r bwriad o ailgodi ein tŷ mewn digwyddiadau eraill yn ein cyffiniau yn y dyfodol.

 

Lottery funding strip landscape white copy.png
Town Council master logo's-01 (1).png
Ty Cerdd logo landscape white_edited.png

Photography | Ffotograffiaeth:  Two Cats in the Yard

bottom of page