“Ar Waith Ar Daith”
Wales Millennium Centre’s 10th Anniversary Celebrations
Yn 2015, roedd Citrus yn rhan o’r tîm creadigol dan arweiniad arbenigwyr celfyddydau awyr agored Walk the Plank ar gyfer y perfformiad enfawr yma’r tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. James a Bridie oedd y Cyfarwyddwr Perfformio a’r Prif Goreograffydd yn y sioe fythgofiadwy yma a chanddi gast anferth o berfformwyr proffesiynol ac o’r gymuned.
Mae’r prosiect yma’n un o sawl cydweithrediad â’n mentoriaid, Walk the Plank. Yn y 1990au y cychwynnodd James ar ei daith theatr stryd gyda nhw ac yn yr ychydig flynyddoedd aeth heibio bu’n rhan o berfformiadau dathliadol lawer gan gynnwys “Elemental Force” yn Chatsworth House a “The Return of Colmcille'' yn seremoni agoriadol Derry/Londonderry Prifddinas Diwylliant.
Mae Walk the Plank yn arweinwyr yn sector y celfyddydau awyr agored ac yn cefnogi artistiaid fyrdd i ddod y to sy’n codi o ymarferwyr. Ar gyfer “Ar Waith Ar Daith ” creasant y prosiect “Awen” oedd yn cynnig hyfforddiant yn y celfyddydau awyr agored i artistiaid drwy hyd a lled Cymru yn arwain at y diweddglo yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Rydym yn gobeithio cadw cynhysgaeth y gwaith yma ar fynd drwy greu cyfleoedd i artistiaid o Gymry ymhel fwy â’r celfyddydau awyr agored drwy ein gwaith ein hunain.