
HAF 25
Rhaglen Gymunedol

Dydd Mercher 23 Gorffennaf,
10am -12pm a 1-3pm
Gweithdai Syrcas
​
Yn ein gweithdai syrcas bydd amrywiaeth o fedre ar gael felly mae yna gyfle i ddod i chware os ydych chi’n Citrus Pip neu os ydi syrcas yn hollol newydd i chi a chithe moyn rhoi cynnig arni.
Fe fydd yna ddewis mawr o fedre ar gael, ar lawr ac yn yr awyr, felly bydd yna rywbeth i bawb.
£2 y pen

Dydd Mercher 30 Gorffennaf, 11am-3pm
Gwneud Papur
Awydd dysgu siwt i wneud dalenne papur o fwydion papur? Gweithdy dan arweiniad yw hwn i roi i chi’r medre i ddysgu siwt i neud dalenne papur ac wedyn mynd yn eich blaen i ddefnyddio’r pethe eraill i’w hychwanegu at y papur.
Gewch chi roi tragywydd heol i’ch creadigedd a gwneud papur â blode wedi’u gosod ynddo, edeifion lliwgar, hade llysieuol neu unrhyw beth arall ddowch chi o hyd iddo fe neu chi moyn dod ag ef o gartre.
Ar ddiwedd y gweithdy, gewch chi fynd â’r dalenne tua thre i’w defnyddio.
£2 y pen

Dydd Mercher 30 Gorffennaf, 10am-12pm
Gweithdy Crefft Allweddi Gwas y Neidr
Yn y gweithdy yma, gewch chi wneud cadwyn allweddi gwas y neidr bert o fwclis i fynd â hi gartre.
Fe fydd yna amrywiaeth o fwclis ar gynnig a bydd gyda ni hefyd fwclis y gallwch chi eu peintio neu luniadu arnyn nhw i greu dyluniad heb ei debyg i’ch gwas y neidr.
£2 y pen

Dydd Mercher 6ed Awst, 1-3pm
Celf Glan y Môr
​
Yn y gweithdy yma, gewch chi wneud cadwyn allweddi gwas y neidr bert o fwclis i fynd â hi gartre.
Fe fydd yna amrywiaeth o fwclis ar gynnig a bydd gyda ni hefyd fwclis y gallwch chi eu peintio neu luniadu arnyn nhw i greu dyluniad heb ei debyg i’ch gwas y neidr.
£2 y pen
.png)
Dydd Mercher 13eg Awst, 11am-3pm
Diwrnod Chware Teuluoedd
​
Dyna’n union beth yw e! Chware! Rydyn ni’n gwahodd teuluoedd i gyd i ddod aton ni i gael diwrnod chware gyda’r tîm yn Citrus. Bydd llond gwlad o bethe ar gael i greu gyda nhw, i wneud gêms newydd, i’w lliwio, eu peintio neu unrhyw beth arall fydd yn taro’ch pen chi. Chi moyn gwneud sioe bypede gyda’r pypede chi’n eu gwneud? Dyma chi ’te. Diwrnod o hwyl a chreadigedd yw hwn, ac yn anad dim meithrin cysylltiade teuluol.
​
£2 y pen
.png)
Dydd Mercher 20fed Awst, 10am -12pm a 1-3pm
Gweithdai Syrcas
Bydd gweithdai syrcas yn cynnig amrywiaeth o sgiliau i roi cynnig arnynt felly mae cyfle i ddod i gael drama p'un a ydych chi'n Sitrws Pip neu'n hollol newydd i syrcas ac eisiau rhoi cynnig arni.
Bydd amrywiaeth o sgiliau daear ac awyr ar gael, rhywbeth i bawb.
£2 y pen

Dydd Mercher 27 Awst,
10am-12pm a 1-3pm
Ballet Agored gyda Krystal Lowe
Dawnsiwr yw Krystal S. Lowe a dreuliodd wyth mlynedd yn perfformio ac yn teithio gyda Ballet Cymru. Nawr mae hi’n creu cynyrchiade theatr ddawns dynamig.
Bydd Ballet Teulu gyda Krystal yn gyfle gwych i ddysgu symudiade dawns newydd sy’n hwyl i’r teulu i gyd! Mae’r dosbarth yma tan gamp ar gyfer closio teuluol dros ddawns a does dim angen profiad. Fe fu hwn yn boblogaidd iawn yn y gorffennol felly bydd y llefydd yn llenwi’n gloi.
£2 y pen
.jpg)