top of page

Rage Rage | Oes Oes

Skapa 8_edited.jpg

Yn tynnu mla’n, ond yn siriol eich cân?
Clwb newydd i ehangu chwilio creadigol ac i gynhyrchu gweithgaredde difyr i bobol adawodd yr ysgol cyn 1990

Mae’r enw’n dod o gerdd Dylan Thomas sy’n sôn am 'the dying of the light'. Smo ni’n barod i’r olau hwnnw bylu. Falle’n bod ni’n tynnu mla’n, ond mae gyda ni bethe calonogol i’w dweud o hyd am ein hoedran, ein profiad ar y cyd a’r pethe gallwn ni’u rhannu yn help i ni heneiddio a meiddio gyda’n gilydd.

Smo chi’n ‘rhy hen’, smo chi’n ‘rhy flinedig’, yn ôl pob tebyg rych chi’r wedd ore arnoch chi’ch hun yn chwilio am glwb sy’ moyn chi ynddo fe.

Fe fydd Citrus Arts yn gwrando ar beth chi moyn ac yn gwneud ei ore glas i godi’r arian fel y gallwn ni gynnig dewis o wahanol ddigwyddiade rhwng cenedlaethe, trefnu gigs, teithie cerdded a chynigion diwylliannol ehangach y gallwn ni’u gwneud gyda’n gilydd a joio’n lle yn y byd wrth i ni heneiddio.


I gael dod yn rhan o’r fenter neu i gael gwybod rhagor rhagor ebostiwch: rageoes@citrusarts.co.uk

Os carech chi ymuno â’n clwb ni a chlywed am ddigwyddiade newydd, llanwch y ffurflen ymgofrestru hon.

Dewch i fyny!

DOWNBEAT MELODY SOUNDSYSTEM


Yn cynnwys: Steve Rice, Lady Fyah, Derw Tha Damaja

Nos Wener, 23 Ionawr, 7:00-11:00pm
Neuadd Trehopcyn
WhatsApp Image 2026-01-09 at 13_edited_e

Yn chwarae Reggae / Ska / Rocksteady ar HiFi Hen Ffasiwn flaenllaw Bryste.
Yn cynnwys gwesteion arbennig, DJs a chantorion Steve Rice Lady Fyah Derw Tha Damaja

7:00-11:00pm
£3:00-£5:00

SLIPPED DISCO


DJ Gareth Potter
DJ Ben Potter

...Dyddiau 2026 i'w cyhoeddi...
7:30-10:30pm
Neuadd Trehopcyn
Copy of 2025 SLIPPED DISCO (Flyer (A4)) (Facebook Post) (1).jpg

....

7:30-10:30pm
£3:00-£5:00

Skapa Collective Gig 

Ychydig o luniau o'r digwyddiad lansio Rage Rage a dim llai gig cerddoriaeth gyntaf yn Neuadd Hopkinstown.

Skapa Collective a'r DJ Gareth Potter Diolch yn fawr iawn, roedd yn chwyth llwyr!

If you would like to receive our occasional newsletter

please subscribe here.

  • YouTube - White Circle
  • Twitter - White Circle
  • Facebook - White Circle

Rhif Elusen: 1188670

Rhif Cwmni: 7840762

Hawlfraint Citrus Arts Cyf 2020

Cefnogir yn rheolaidd gan:

WAG land colour(1)
4529823-27262523-thumbnail
taliesin dance days logo
pontio_logo
WMC logo
WELSH_L_ACW_RGB
big lottery logo welsh
bottom of page