top of page

Sbloets y Machlud yng Ngŵyl Sblash Fawr (2011-2015)

 

Mae Citrus yn falch iddynt fod yn Gyfarwyddwyr Cyswllt Sblash Fawr, gŵyl theatr stryd fwyaf Cymru.  Yng Nglan yr Afon yng Nghasnewydd, a’r tu allan iddi, y’i cynhelid yr ŵyl a welodd Citrus yn cynhyrchu’r sioe fawr Sbloets y Machlud bob blwyddyn ar lannau Afon Wysg.


Dros y pum mlynedd rhoes Sbloets y Machlud lwyfan i lu o artistiaid a chwmnïau tan gamp fel: Alchemy Fireworks, Walk the Plank, Sinfonia Cymru, Kitsch n Sync, Mary Bijou Cabaret, Crashmat Collective, Tin Shed Theatre, Flame Oz, Dream Engine, Hoop La La, SWICA,  a llond gwlad at hynny.
​
Gwyliwch y fideo yma i gael gweld uchelfannau o ŵyl 2014. 

Gŵyl Sblash Fawr

bottom of page