top of page

Rhaglen ‘Settlement’ Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2026

Galwad am Artistiaid:

Comisiwn Syrcas Cyfoes

Mae Citrus Arts yn cynnig cyfle comisiwn i artistiaid/gwneuthurwyr/perfformwyr syrcas newydd. Rydym yn chwilio am gwmni i ddyfeisio a llwyfannu sioe syrcas gyfoes awyr agored newydd yn rhaglen "Settlement" Gŵyl y Dyn Gwyrdd o'r 15fed i'r 19eg o Awst 2026.

 

Y Swydd

 

Rydym yn edrych i gefnogi unigolyn neu grŵp bach a all fod yn greadigol drwy ddatblygu sioe newydd neu syniad presennol sydd heb ei ddatblygu'n llawn ar gyfer perfformiadau awyr agored.

  

Gofynion y sioe

 

•        Rhai o'r agweddau pwysig i'w hystyried ar gyfer sioe awyr agored ar gyfer y comisiwn hwn yw:

•        Disgyblaethau: Cymysgedd o symudiadau cryf ar lawr - h.y acrobatics, theatr gorfforol a dawns, gyda phwyslais ar ddisgyblaethau syrcas yr awyr. Dim sioeau unigol.

 

•        Llwyfannu: Bydd gan y llwyfan rig awyr "GoalPost" gyda system wrthbwysau i chi ei defnyddio. Bydd y perfformiad comisiwn yn cael ei gyflwyno ar lwyfan awyr agored 5m x 5m gyda rig Tomcat Box Truss 6m x 6m.

•        Hyd ac Awyrgylch: Bydd angen i'r sioe fod rhwng 35-55 munud o hyd a bydd yn cael ei berfformio gyda'r cyfnos. Bydd yn cynnwys nodweddion dylunio trawiadol. Bydd yn cynnwys cerflun tân (bydd Citrus Arts yn ei ddarparu a'i ddylunio i gysylltu â thema cysyniad eich sioe), fel diweddglo.

         

•        Sain: Byddem yn disgwyl trac sain cryf a chydlynol i'ch syniad (dim rhestrau chwarae arddull cabaret megis galwad rholio o actiau, os gwelwch yn dda). Gallwn ddarparu gogyfer cerddoriaeth fyw a/neu gwaith gair llafar os oes gennych yr offer i gysylltu â PA, a gweithredwr sain os penderfynwch gynnwys yr elfennau hyn.

         

•        Cymorth Technegol: Ar y safle yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd, bydd tîm cymorth technegol proffesiynol ar gael felly'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw gwneud eich ymarferion technegol a pherfformio.

 

Dyddiadau a Lleoliadau Pwysig

 

Bydd y comisiwn yma ond o fudd i'r rhai sy'n gallu mynychu'r holl ddyddiadau ar gyfer y cyfnod ymchwil a datblygu a chymorth datblygu ychwanegol.

 

•        Canol mis Gorffennaf (i'w gadarnhau): Hyd at 2 ddiwrnod yn bersonol gyda thîm mentora Celfyddydau Citrus i weithio ar ddatblygu eich cynnig creadigol i amserlen gynhyrchu / a stori fwrdd. Byddwn yn siarad am wisgoedd, datblygu setiau a'r amserlen fentora.

 

•        3ydd – 8fed Awst 2026: Bydd wythnos ymchwil a datblygu i greu y sioe. Bydd tîm mentoriaid Citrus wrth law i sicrhau amserlen gynhyrchiol i'ch helpu i ffocysu ar yr elfen greadigol.

 

•        Lleoliadau: Bydd diwrnodau mentora a chyfnodau ymchwil a datblygu yn Neuadd Trehopcyn, Ffordd Foundry, Pontypridd, CF37 2RA. Bydd rhaglen "Settlement" Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn Ystâd Glanusk, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Crughywel, NP8 1LP, Cymru.

 

Nodyn ar llety preswyl: Nid oes llety dros nos ar gael yng ngofod creu Citrus Arts, ond gallwn ddarparu llety i'r Prif Artist (artistiaiad) am y 2 ddiwrnod o fentora a chynllunio, os bydd angen.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn gallu helpu gyda llety ar gyfer y cyfnod creu.

 

Ein darpariaeth:

•        Ffi gomisiwn o £2000.

•        Bydd mentora, lle ymarfer, a chymorth technegol prosiect "Settlement" yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd drwy garedigrwydd Citrus Arts.

•        Lleoliadau creadigol gyda rigio i'r a mynediad i ardaloedd profi awyr agored.

•        Mynediad i stiwdio gwneud propiau (gwaith pren a metel).

•        Cyngor arbenigol ar sut i ddatblygu syniad.

•        Cynulleidfa frwdfrydig, gefnogol o hyd at 1,500.

 

Pwy ddylai wneud cais?

Byddem wrth ein bodd yn clywed gan:

  • Artistiaid sydd yn dechrau eu gyrfa gyda hyfforddiant a/neu brofiad mewn celfyddydau syrcas/awyr agored.

  • Criw neu cydweithfeydd gyda syniad gwych.

  • Pobl sy'n realistig ynghylch ymarferoldeb llwyfannu sioeau syrcas awyr agored.

  • Artistiaid sy'n gweld eu hunain fel entrepreneur i'r dyfodol, a fydd yn elwa o'r profiad addysg rydyn ni'n ei gynnig.

 

Cwrdd â'r Mentoriaid

Mae gan Citrus Arts dîm mentoriaid hynod gefnogol gyda blynyddoedd o brofiad mewn sawl maes.

 

  • James Doyle-Roberts: Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Citrus Arts. Mae James wedi perfformio, dyfeisio a chyfarwyddo sioeau syrcas cyfoes ar gyfer dathliadau Olympaidd, Ffilm a Theledu, a'r sector masnachol. Mae eisioes wedi ennill gwobrau ac wedi'i enwebu, ac mae'n arbenigo ar sut i lwyfannu sioeau ar gyfer teithio, comisiynau, a lleoliadau anarferol.

 

  • Beth House: Cyfarwyddwr Gweithredol Citrus Arts. Mae ganddi gefndir mewn theatr ar gyfer yr awyr agored sydd â theithio ar raddfa fach a chynhwysiant wrth ei wraidd. Mae hi'n arbenigo mewn meithrin talent newydd, cynghori cwmnïau newydd i sefydlu eu hunain, a sut i ofalu am eich cynulleidfa.

 

  • Tammi Brown: Cydlynydd Syrcas ar gyfer Citrus Arts. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad fel perfformiwr, rigiwr, a hyfforddwr. Drwy fod yn sylfaenydd Upside Down Circus, mae hi'n arbenigwr mewn helpu perfformwyr syrcas i ddod o hyd i lwybrau newydd i'w straeon personol ac mae'n arbenigo mewn acrobatics ac agweddau syrcas "aerial" cyfoes.

  • Bridie Doyle-Roberts: 

If you would like to receive our occasional newsletter

please subscribe here.

  • YouTube - White Circle
  • Twitter - White Circle
  • Facebook - White Circle

Rhif Elusen: 1188670

Rhif Cwmni: 7840762

Hawlfraint Citrus Arts Cyf 2020

Cefnogir yn rheolaidd gan:

WAG land colour(1)
4529823-27262523-thumbnail
taliesin dance days logo
pontio_logo
WMC logo
WELSH_L_ACW_RGB
big lottery logo welsh
bottom of page