top of page

SHIPWRECKS
Receivers of the Wreck

Mae goroeswr wedi’i adael ar lannau’r dyfodol agos.

Mewn byd sy’n boddi dan blastig casglir negeseuon mewn poteli. 

Does dim modd adrodd straeon mewn unigedd.

Derbynwyr Drylliau Llongau, Gwehyddion Straeon.

Negeseuon wedi dod i law a’u deall.’
 

"Shipwrecks - Receivers of The Wreck" by Citrus Arts (short promo)

"Shipwrecks - Receivers of The Wreck" by Citrus Arts (short promo)

Play Video

Ysbrydolwyd “Shipwrecks – Receivers of The Wreck” gan straeon llongddryllwyr, achubiadau a morwyr nad oedd boddi arnynt, o lannau Cymru – yn fyd ôl-ddiwydiannol o longau wedi malu, sborioni a goroesi lle mae rhwydi wedi’u gadael ers tro yn dal straeon a negeseuon y rheini a gollwyd ar y môr. 

Sioe hynod o gorfforol yn cyfuno syrcas â dawns a drama i adrodd stori hollgyffredinol ein dyhead am unigrwydd yn erbyn angen gweithredu ar y cyd er lles pawb. 

Er mawr lawenydd i ni, roedd première y cynhyrchiad awyr agored yma ar ein rhiniog yn rhan o raglen ddiwylliannol Arhosfan Ras Gefnfor Volvo yng Nghaerdydd,  Mai 2018