Drysau Led Y Pen
Blddwyn
Cartref
Neuadd Trehopcyn,
29th Abril 2023
Digwyddiad Cymunedol am Ddim!
Mae Citrus yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i’n diwrnod ‘Blwyddyn y Cartref’ Drysau Led y Pen ddydd Sadwrn Ebrill 29ain yn Neuadd Trehopcyn o ddau tan bump o’r gloch. Mae’r digwyddiad cymuned yma sydd AM DDIM yn rhan o’n menter ‘Blwyddyn y Cartref’.
Byddwn yn coginio danteithion chwilota i’w rhannu ar derfyn dydd (cawl danadl), yn arbrofi â’r ‘Olwyn Almaenig’ ac yn gwneud crefftau teulu ac iddyn nhw thema ‘Cartref’. Tameidiau am ddim a gweithgareddau creadigol eraill i’w joio drwy’r pnawn i bawb. Dewch draw ar hap!
Cyn y digwyddiadau yn y Neuadd, am un o’r gloch byddwn yn mynd am dro i chwilota am ddanadl ac mae croeso i chi ddod hefyd.
Rhaglen flwyddyn o ddigwyddiadau cymuned, dosbarthiadau, gweithdai a pherfformiadau i gyd ar ein thema, sef CARTREF.
Yn ddiweddarach ar y flwyddyn byddwn yn codi Tŷ Unnos ar Gomin Pontypridd – yn ôl yr hen chwedl, petaech chi’n gallu codi tŷ dros nos a chynnau tân ar yr aelwyd erbyn toriad dydd, fe gaech chi ymgartrefu yno. Fe gaech ffarmio’r tir cyn belled ag y gallech chi daflu bwyell o ddrws eich tŷ.
Cyfeiriad yr oedfan a sut i fynd yno:
Neuadd Trehopcyn, Heol y Ffowndri, CF37 2RA
Ychydig o le parcio ar y stryd sydd ar Heol y Ffowndri felly rydym yn argymell bob pobl yn dod ar eu deudroed, ar gefn beic neu â chludiant cyhoeddus lle bo modd. Rydyn ni’n argymell bws 130 neu 132 a disgyn yng Nghastell Ifor.
Amserlen ac addasrwydd oed:
I oedolion: Un o’r gloch – Taith gerdded chwilota, cyfarfod y tu allan i’r Neuadd – Gwneud cawl danadl chwilota
I lasoed ac oedolion: Dau tan bump o’r gloch – Gweithdy’r Olwyn Almaenig (medr syrcas)
I blant a theuluoedd: Dau tan bump o’r gloch – Crefft a Gweithgareddau Creadigol
Cysylltwch â bridie@citrusarts.co.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Digwyddiad Lansio, Barry Sidings, Ionawr 2023
‘Year of Home’ has been made possible with support from Arts Council Wales, Welsh Assembly Government, National Lottery, Big Lottery Community Fund, BBC Comic Relief and the Principality.