top of page

Gŵyl Green Man

Ers pedair blynedd cawsom y pleser o greu sioeau ar raddfa fawr wedi’u gwneud yn arbennig i’r ŵyl gerdd dra hoff yma ym Mannau Brycheiniog. Ar lwyfan awyr agored ac iddo gefnlen ysblennydd byddwn yn Cydgynhyrchu rhaglen y celfyddydau perfformio gan gychwyn â gwledd danllyd i’r llygaid bob nos. Yn rhan o’n cynllun “Proffesiynolion Newydd”, gwêl y prosiect yma fyfyrwyr syrcas yn gweithio ochr yn ochr â dawnswyr ac awyrgampwyr proffesiynol i greu perfformiad i gynulleidfa o filoedd – un o uchaelfannau’r ŵyl.

BETWEEN THE DEVIL AND THE DEEP (2018)  

Fe ymunon ni â myfyrwyr o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a rhai o’r tîm o Splatch Circus sydd â’i gartref yn Ne Cymru i weithio ochr yn ochr â’n cydweithredwyr rheolaidd, Circomedia, i roi cyfle i’r myfyrwyr estyn eu cyhyrau creadigol.

BLWYDDYN MYTHAU A CHWEDLAU

(2017)

At ein trydedd flwyddyn yn yr ŵyl, symudodd llwyfan Back of Beyond drosodd i’r prif faes lle bu i ni greu “Gorge”, hanes werin hudol a ysbrydolwyd gan chwedl leol Llyn Cwm Llwch. Fe’i crëwyd gyda Circomedia, Ballet Cymru a llu o artistiaid syrcas proffesiynol.

Gorge at Green Man 2017

Gorge at Green Man 2017

Watch Now
Precipice

Precipice

Watch Now

BLWYDDYN ANTUR (2016)

Antur arwrol ydi “Precipice”, sef dringo mynydd ucha’r Byd, a ysbrydolwyd gan fab enwog Crucywel - Syr George Everest. Crëwyd gan fyfyrwyr o Circomedia yn gweithio ochr yn ochr â phroffesiynolion y syrcas . 

Lluniau gan Inept Gravity

Fideo gan Fluxx Films

bottom of page