top of page

Cywion Celf

Ydych chi rhwng 18 a 30 oed?
Ydych chi’n byw yng Nghymru?
Ydych chi’n chwilio am her newydd?
Hoffech chi ddysgu medrau creadigol newydd a gweithio yn yr awyr agored?

Cywion Celf
Recriwtio Gwanwyn 2025

Application deadline is:
Sunday, 19th January, 5pm
Paid Training Courses
Yn Citrus Arts rydyn ni’n chwilio am bobol ifanc rhwng 18 a 30 oed i ddod i hyfforddi gyda ni ym maes medrau technegol celfyddydau awyr agored. Caiff yr hyfforddeion eu talu am ddod ac fe ddysgan nhw:
 
  • Ragarweiniad i rigio a gwrthbwyso syrcas
  • Lanternau, goleuo awyr agored a thân
  • Weldio
  • Uwchadeiledd a chynhyrchu gwyliau
 
Mae cwrs 1 ar fynd o 17eg Chwefror hyd at 8fed Mawrth 2025
 
Mae cwrs 2 ar fynd o 17eg Mawrth hyd at 5ed Ebrill 2025

Cynhelir y sesiynau hyfforddi yn ein canolfan yn Neuadd Trehopcyn a mewn lleoliadau awyr agored (y byddwn yn teithio iddyn nhw gyda’n gilydd yn ôl y gofyn). Talir y Cyflog Byw Cenedlaethol i’r hyfforddeion. Does dim angen unrhyw brofiad cynt arnoch chi, ond mae gofyn i chi fod â diddordeb mewn creu digwyddiadau awyr agored cyffrous sy’n dod â chymunedau at ei gilydd a bod yn chwilfrydig ynghylch sut mae’r holl beth yn gweithio! Rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y cwrs cyfan. I gael gwybod sut i wneud cais am un o’r cyrsiau neu’r ddau, neu i drafod rhywun ifanc, pryd rydych ar gael neu unrhyw gwestiynau sydd gennych, cysylltwch â Beth ar beth@citrusarts.co.uk neu 07785 947823. Os hoffech sgwrsio yn Gymraeg, cysylltwch â Beth uchod er mwyn trefnu hyn.

rigio

rheoli digwyddiadau

llwyfannu

goleuo awyr agored

If you would like to receive our occasional newsletter

please subscribe here.

  • YouTube - White Circle
  • Twitter - White Circle
  • Facebook - White Circle

Rhif Elusen: 1188670

Rhif Cwmni: 7840762

Hawlfraint Citrus Arts Cyf 2020

Cefnogir yn rheolaidd gan:

WAG land colour(1)
4529823-27262523-thumbnail
taliesin dance days logo
pontio_logo
WMC logo
WELSH_L_ACW_RGB
big lottery logo welsh
bottom of page