Y Byd Mawr
y Tu Fas!
Y Sesiwn Saernïo Olaf
Dydd Sadwrn, 10-1pm
Neuadd Trehopcyn
Caiff sesiwn saernïo olaf Y Byd Mawr y Tu Fas ei chynnal ddydd Sadwrn 18fed Ionawr o ddeg y bore tan un o’r gloch. Fe fyddwn ni’n gwneud llunie ffenestri gwydr lliw (collages) yn Neuadd Trehopcyn.
Yn y pnawn rydyn ni’n cynllunio i roi tro am safle Siafft Hetty. Os hoffech chi ddod gyda ni, cofiwch ddod â chotie glaw a sgidie addas.
Gwasel Citrus
Dydd Sadwrn, 25ain Ionawr ,4:30-5:30pm
Hetty Pit
A nosau hir y gaea’n dal i’n fferru ni, dewch at Citrus Arts am awr fach i ddathlu gweld y dyddie’n ymestyn. Rhowch help llaw i ni ddihuno natur ar ein llwybr bach celfwaith awyr agored wedi’i greu gan ein prosiect Multiply, Y Byd Mawr y Tu Fas. Gewch chi rannu joch a chymryd rhan yn rhai o’r traddodiade hynafol sy’n nodi troad y flwyddyn ac adnewyddu’r tir.
Digwyddiad am ddim sy’n addas i bob oed.
Gwybodaeth am leoliad Hetty – cofiwch ddod ar gerdded lle bo modd gan mai dim ond mewn manne hygyrch mae yna lefydd parcio. Mae’r man parcio agosaf ar draws y briffordd, ym Mharc Gwledig Barry Sidings.
Lapiwch amdanoch yn dwym, dewch â thortsh a gwisgo sgidie addas i’r tywydd. Cofiwch fod y tir yn anwastad mewn rhai manne.