
Rhaglen 'Settlement' Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2026
Galwad am Artistiaid:
Comisiwn Syrcas Cyfoes
Mae Citrus Arts yn cynnig cyfle comisiwn i artistiaid/gwneuthurwyr/perfformwyr syrcas newydd. Rydym yn chwilio am gwmni i ddyfeisio a llwyfannu sioe syrcas gyfoes awyr agored newydd yn rhaglen "Settlement" Gŵyl y Dyn Gwyrdd o'r 15fed i'r 19eg o Awst 2026.
Y Swydd
Rydym yn edrych i gefnogi unigolyn neu grŵp bach a all fod yn greadigol drwy ddatblygu sioe newydd neu syniad presennol sydd heb ei ddatblygu'n llawn ar gyfer perfformiadau awyr agored.
Ein darpariaeth:
• Ffi gomisiwn o £2000.
• Bydd mentora, lle ymarfer, a chymorth technegol prosiect "Settlement" yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd drwy garedigrwydd Citrus Arts.
• Lleoliadau creadigol gyda rigio i'r a mynediad i ardaloedd profi awyr agored.
• Mynediad i stiwdio gwneud propiau (gwaith pren a metel).
• Cyngor arbenigol ar sut i ddatblygu syniad.
• Cynulleidfa frwdfrydig, gefnogol o hyd at 1,500.
Os hoffech siarad ag aelod o'r tîm, gallwch anfon e-bost neu ffonio James: james@citrusarts.co.uk | 07951015751
Pwy ddylai wneud cais?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gan:
-
Artistiaid sydd yn dechrau eu gyrfa gyda hyfforddiant a/neu brofiad mewn celfyddydau syrcas/awyr agored.
-
Criw neu cydweithfeydd gyda syniad gwych.
-
Pobl sy'n realistig ynghylch ymarferoldeb llwyfannu sioeau syrcas awyr agored.
-
Artistiaid sy'n gweld eu hunain fel entrepreneur i'r dyfodol, a fydd yn elwa o'r profiad addysg rydyn ni'n ei gynnig.
I wneud cais:
1) - Mynegwch eich diddordeb drwy sgwennu hyd at 400 gair yn amlinellu eich profiad hyd yn hyn, eich syniad, a sut y bydd y comisiwn hwn o fudd i chi. Neu, clip o fideo o'r un peth (hyd at 4 munud).
2) - Hyd at 3 delwedd o'ch gwaith, neu waith rydych chi wedi bod yn rhan agos ohono. Neu, clip fideo hyd at 3 munud o'r un peth.
[link to criteria details]
Anfonwch eich 'Mynegiant o Ddiddordeb' drwy e-bost i: james@citrusarts.co.uk gan 12pm, Dydd Gwener, 22 Mai.
Nodyn: Os yn gwneud cais, meddyliwch yn ofalus iawn am sut rydych chi am gyflwyno'ch hun fel partner creadigol i Citrus Arts a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, a gwnewch yn siŵr eich bod wedi darllen a deall y briff uchod yn llawn. Os hoffech siarad ag aelod o'r tîm, gallwch ffonio James ar 07951015751.
Cwrdd â'r Mentoriaid
Mae gan Citrus Arts dîm mentoriaid hynod gefnogol gyda blynyddoedd o brofiad mewn sawl maes.
-
James Doyle-Roberts: Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Citrus Arts. Mae James wedi perfformio, dyfeisio a chyfarwyddo sioeau syrcas cyfoes ar gyfer dathliadau Olympaidd, Ffilm a Theledu, a'r sector masnachol. Mae eisioes wedi ennill gwobrau ac wedi'i enwebu, ac mae'n arbenigo ar sut i lwyfannu sioeau ar gyfer teithio, comisiynau, a lleoliadau anarferol.
-
Beth House: Cyfarwyddwr Gweithredol Citrus Arts. Mae ganddi gefndir mewn theatr ar gyfer yr awyr agored sydd â theithio ar raddfa fach a chynhwysiant wrth ei wraidd. Mae hi'n arbenigo mewn meithrin talent newydd, cynghori cwmnïau newydd i sefydlu eu hunain, a sut i ofalu am eich cynulleidfa.
-
Tammi Brown: Cydlynydd Syrcas ar gyfer Citrus Arts. Mae ganddi dros 25 mlynedd o brofiad fel perfformiwr, rigiwr, a hyfforddwr. Drwy fod yn sylfaenydd Upside Down Circus, mae hi'n arbenigwr mewn helpu perfformwyr syrcas i ddod o hyd i lwybrau newydd i'w straeon personol ac mae'n arbenigo mewn acrobatics ac agweddau syrcas "aerial" cyfoes.
-
Bridie Doyle-Roberts: Cyd-sylfaenydd Citrus Arts, a Chyfarwyddwr Stiwdio C. Mae hi'n Asiant dros Newid gyda Craidd, sef cynllun blaenllaw Cymru i wella hygyrchedd i bobl anabl i'r celfyddydau ar gyfer artistiaid a chynulleidfaoedd. Mae hi'n arbenigo mewn gwreiddio hygyrchedd i berfformiadau a chelfyddydau ymdrochol.








