

Siafft Hetty
Cymunedol
Diwrnod Help Llaw
Dydd Gwener 02|06
10:30am-4pm
Glofa’r Great Western
Dewch aton ni i ddiwrnod Help Llaw a Phicnic yn Nhrehopcyn
Mae Citrus yn rhoi help llaw i’n cymdogion yn safle Glofa’r Great Western.
Mae arnon ni angen bôn braich y bobol i helpu i baratoi safle Hetty at weithiau y bu hir aros amdanyn nhw ac y mae eu mawr angen. Dyma feddwl gwneud hyn yn ddigwyddiad cymuned sy’n hwyl yn ogystal ag yn gyfle i bobol leol roi o’u hamser i safle treftadaeth leol o bwys, felly byddem wrth ein boddau o’ch gweld chi yno.
Dewch heibio o hanner awr wedi deg y bore tan bedwar y pnawn i ladd gwair, i lanhau ac i sgubo. Bydd yma rywbeth i dorri syched y gweithwyr blin, a hwyl y syrcas i’r cryts mae gofyn eu difyrru.
Dewch â bwyd awyr agored i’w rannu os gallwch chi a gewn ni wledd gymuned amser cinio. Mae croeso i’r cryts ddod â theganau awyr agored hefyd – peli, ffrisbis ac yn y blaen i’w cadw nhw’n fishi.
Mae yna ychydig o lefydd parcio ar y safle i gynorthwywyr ond doeth o beth fyddai i chi rannu ceir neu gerdded i’r safle o Drehopcyn (cofiwch ddefnyddio ochr Trehopcyn i beidio â chroesi’r heol brysur).
Ar yr A4058 am y ffordd â’r mynediad i Barc Gwlad Barry Siding mae safle Glofa’r Great Western.