top of page
Rydym yn Recriwtio
Cydgysylltydd Cymuned
%20(5).png)
Mae Citrus Arts yn chwilio am Cydgysylltydd Cymuned newydd i ymuno â'n tîm bach.
Rydym yn gwmni syrcas a chelfyddydau awyr agored wedi'i leoli yn Hopkinstown, Pontypridd ac rydym yn chwilio am rywun i gefnogi ein perthynas sy'n datblygu gyda'n cymdogion ac i feithrin creadigrwydd ein hardal leol a'n cymunedau.
Gweler y Disgrifiad Swydd am fanylion llawn y rôl.
Teitl: Cydlynydd Cymunedol
Statws: Mewn cyflogaeth (PAYE) rhan-amser (2 ddiwrnod yr wythnos = 0.4 Cyfwerth ag Amser Llawn)
Cyflog: £30,000 pro rata (gweler Disgrifiad Swydd am gyfrifiad)
Lleoliad: Trehopcyn, Pontypridd
Sut i wneud cais:
Anfonwch CV a llythyr eglurhaol at beth@citrusarts.co.uk. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys profiad perthnasol rhwng eich CV a'ch llythyr, pam rydych chi'n meddwl y byddech chi'n addas ar gyfer y rôl, a'r hyn y byddech chi'n ei gyfrannu at y rôl. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Saesneg, Cymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain. Gellir ysgrifennu, ffilmio neu recordio eich llythyr eglurhaol.
Dyddiad cau 5pm ddydd Gwener 25 Gorffennaf 2025.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych chi!
Allech chi fod yn un o'n Hymddiriedolwyr newydd ni?
%20(1).png)
Mae Citrus Arts, corff syrcas a’r celfyddydau awyr agored ym Mhontypridd yng nghymoedd De Cymru, yn chwilio am ymddiredolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd
bychan ond grymus.
Pwy yw Citrus?
Elusen yn y celfyddydau ydym, a chennym weledigaeth o gymuned greadigol â’i
gwreiddiau yn ethos y syrcas deithiol
Cenhadaeth Citrus yw defnyddio medrau ymarferol bywyd y syrcas a’r celfyddydau
awyr agored i feithrin dinasyddiaeth dda a charedigrwydd yn ein cymdogaeth, ac i
danio creadigedd, gyda chysylltu ein cymuned â ni’n hunain, â’n gilydd ac â’r tir drwy
lywyddu profiadau trawiadol ar y cyd.
Beth wnawn ni?
Hyfforddiant tâl mewn medrau technegol yn y celfyddydau awyr agored i bobl ifanc
sydd heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (y cyllun Cywion Celf)
Mewnosodion celfyddydau awyr agored a syrcas gyda’n cymuned ac ynddi DOLEN
 TY UNNOS
Dosbarthiadau syrcas i blant ac oedolion yn ein canolfan yn Neuadd Trehopcyn
Rage Rage | Oes Oes sef rhaglen ddiwylliannol wrthryfelgar i bobl adawodd yr ysgol
cyn 1990
Digwyddiadau cymunedol creadigol e.e. sgriniadau NT Live, gigs, perfformiadau a
diwrnodiau cymuned
Am bwy rydym yn chwilio?
Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n bwrdd a rhoi help llaw i ni yrru’r
cwmni, gydag ymorol ein bod yn dal i fod yn gyfrifol ac yn gweithio’n benderfynol ac
yn ddawnus ym mhopeth wnawn ni.
Mae gennym ddiddordeb yn arbennig mewn clywed gan bobl sy’n byw yn
Nhrehopcyn neu’r cyffiniau, sy’n medru’r Gymraeg a/ neu sy’n teimlo bod profiad eu
bywyd heb ei gynrychioli ddigon yn y celfyddydau neu ar fyrddau elusennau. Mae
gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan bobl a chanddyn nhw brofiad ym
meysydd cynaliadwyedd yr amgylchedd, diogelu, marchnata neu feithrin perthynas,
rheoli staff, diogelu data a/ neu reoli oedfannau. Fodd bynnag, y peth pwysicaf yw
bod gennych ddiddordeb yn y celfyddydau ac awch a brwdfrydedd dros helpu ein
cymuned a’n pobl ifanc i goleddu creadigedd, dinasyddiaeth a charedigrwydd.
Rhywun sy’n gofalu am waith elusen yw ymddiredolwr, yn ymorol ei bod yn
cwrdd â’i hamcanionelusennol ac yn gwneud popeth a wna mewn modd
cyfreithlon a phroffesiynol. Mae ymddiredolwyr yn cwrdd bob ychydig fisoedd
i fwrw golwg ar waith yr elusen, ei gynllunio a’i drafod. Chaiffymddiredolwyr
mo’u talu am fod yn ymddiredolwyr, ond maent yn cael treuliau i ymorol am
deithio etc.
Cynhelir cyfarfodydd o fwrdd Citrus tua phedair gwaith y flwyddyn, fel arfer ar Zoom,
ac mae yna ddigwyddiadau creadigol eraill gan Citrus rydym wrth ein boddau o weld
ein hymddiredolwyr yn mynd iddynt lle bo modd. Gallai’r rhain gynnwys gigs,
perfformiadau, gŵyl, gweithdai a llawer at hynny. Mae’n amcan gennym gefnogi ein
bwrdd o ran anghenion hyfforddiant a datblygu yn ogystal â chyfleoedd
cymdeithasol.
Ar hyn o bryd mae gan Citrus Arts bedwar ymddiredolwr ac rydym yn chwilio am dri
neu bedwar eto.
I wneud cais, anfonwch gais atom ym mha fformat bynnag y mynnwch chi. Gewch
chi anfon CV, os oes gennych un, gyda llythyr eglurhaol, a ffeil sain neu fideo.
Gewch chi wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.Ar hyn o bryd mae’r
cyfarfodydd o’n bwrdd ar fynd yn Saesneg gyda pheth Cymraeg ac rydym yn
awyddus iawn i glywed siarad mwy o Gymraeg. Byddem hefyd yn falch o gefnogi
dehongli cyfarfodydd yn Iaith Arwyddion Prydain os oes gofyn.
Os carech gael sgwrs anffurfiol â rhywun sydd ar ein bwrdd ar hyn o bryd, neu os
oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Gweithredol, Beth, i
drefnu: beth@citrusarts.co.uk
Dyddiad cau ceisiadau: 31 Gorffennaf 2025 5pm
bottom of page