top of page

I ddathlu’r gwelliannau sydd ar y gweill ym Mhwll Hetty, mae eu gwirfoddolwyr ynghyd a Citrus Arts yn eich gwahodd i weld y llecyn lleol hyfryd yma fel lle i ddathlu doethineb a rhyfeddod ein cymuned.

 

Ar ddydd Sul Mehefin 16eg o 1yh-5yh dewch yn llu ar Sul y Tadau yn ystod yr Wythnos Werdd Fawr am brynhawn o hwyl bydd yn cynnwys,

  

• Ysgrifennu caneuon tân gwersyll gyda'r enwog The Honest Poet

• Casglu pryfed a tynnu lluniau natur

• Crefftau

• Sgiliau syrcas

• Ardal picnic

• Parêd anifeiliaid anwes golygus (dewch â luniau o anifeiliaid anwes sydd angen aros adref!)

• Cystadlaethau, gemau a hwyl

• Teithiau tywys o amgylch Engine House a'r safle

• Cyfnewid planhigion - dewch â'ch egin-blanhigion a'ch planhigion sbâr

• Hongian eich tÅ· adar ( digwyddiad ar Ddydd Sadwrn 15fed o Fehefin)

 

Does dim lle i barcio ceir ar y safle, defnyddiwch gyfleusterau cyfagos yn Barry Sidings a Chlwb Criced Trehopcyn.

Os gwelwch yn dda, croeswch Ffordd Rhondda wrth groesfannau i gerddwyr yn unig.

 

Mae'n well archebu ond nid yw'n angenrheidiol.

 

Cyflwynir gan Citrus Arts mewn partneriaeth â Great Western Colliery Preservation Trust. Cefnogwyd gan WWF a Chyngor Celfyddydau Cymru.

 

Edrychwn ymlaen yn arw i’ch croesawu!

Information Sheet Header (New).jpg
bottom of page